Llwybr ymgeisio ar-lein sylfaenol Cymraeg newydd

image_pdfimage_print

Gall cwsmeriaid y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sy’n gwneud cais am eu gwiriad sylfaenol trwy ein llwybr ymgeisio ar-lein wneud hynny yn Gymraeg bellach.

Dywedodd Mark Favager, Perchennog Cynnyrch ar gyfer y gwiriad DBS sylfaenol ar-lein:

Ers lansio’r gwasanaeth hwn ym mis Ionawr y llynedd, rydym wedi gwrando ar ein defnyddwyr ac o ganlyniad wedi ychwanegu llawer o nodweddion newydd i wneud y cais ar-lein yn gyflymach ac yn haws ei ddefnyddio.

Mae’r nodwedd ddiweddaraf yn rhoi’r dewis i gwsmeriaid Cymraeg gwblhau eu cais cyfan yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed; yn awr, gallant wirio eu hunaniaeth, cwblhau eu cais a thalu am y gwasanaeth yn eu hiaith eu hunain.

Bydd gan unrhyw un sy’n defnyddio’r gwiriad sylfaenol llwybr ymgeisio ar-lein yr opsiwn i weld cynnwys y dudalen yn Gymraeg neu Saesneg a gallant newid rhwng y ddwy ar unrhyw dudalen.

Sylwer, er y gall defnyddwyr wneud cais am wiriad sylfaenol yn Gymraeg bellach, nid yw’n ofynnol i’r DBS gyfieithu gwybodaeth ar dystysgrif, felly bydd y dystysgrif y maent yn ei derbyn yn dal i fod yn Saesneg. Mae hyn oherwydd bod y DBS wedi nodi risg i gywirdeb gwybodaeth os caiff ei chyfieithu.

Leave a Reply

Your email address will not be published.