Detailed guide: Cael tagiau clust swyddogol newydd i wartheg neu dagiau clust yn lle hen dagiau

image_pdfimage_print

Updated: Mae’r rhestr gymeradwy o gyflenwyr o dagiau clust gwartheg wedi cael ei ddiweddaru.

Bydd angen cyflenwad o dagiau clust swyddogol arnoch i’w defnyddio pan gaiff lloi eu geni ar eich daliad, ac os bydd tag ar goll neu os nad yw’r rhif i’w weld mwyach, bydd angen i chi gael tag newydd yn ei le.

Dim ond wrth gyflenwyr sydd wedi’u cofrestru â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) y gallwch brynu tagiau clust swyddogol.

Archebu swp newydd o dagiau

Pan fyddwch yn gwneud cais am swp o dagiau swyddogol, bydd angen i’r cyflenwr wybod eich nod buches a Rhif eich Daliad. Bydd yn defnyddio’r wybodaeth hon i gael rhediad o rifau anifail unigryw, unigol ar gyfer eich tagiau o gronfa ddata System Dyrannu Tagiau Clust GSGP. Bydd y cyflenwr yn anfon y tagiau wedi’u hargraffu atoch yn uniongyrchol.

Ni ddylech wneud cais am fwy o dagiau clust nag y byddwch yn eu defnyddio mewn blwyddyn. Rhaid cadw tagiau clust nad ydych wedi’u defnyddio yn ddiogel.

Cael tagiau newydd yn lle rhai a gollwyd

Os bydd angen i chi gael tag newydd yn lle tag a gollwyd neu dag annarllenadwy, cysylltwch ag unrhyw un sy’n cyflenwi tagiau cymeradwy er mwyn archebu tag newydd yn ei le.

Dylech bob amser ddefnyddio’r ddyfais osod gywir ar gyfer y math o dag rydych yn ei ddefnyddio a dilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr.

Rhoi adborth ar dagiau clust

Mae GSGP yn monitro adborth gan geidwaid gwartheg ar dagiau clust swyddogol a gall weithredu ar yr adborth hwnnw. Gallwch
lawrlwytho ffurflen adborth
(PDF, 854KB, 2 pages)

neu gael un gan eich cyflenwr

Leave a Reply

Your email address will not be published.