Cyngor Diwygiedig ar Fesurau Lleihau Risg clefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob (vCJD) ar gyfer y DU

Hoffwn hysbysu’r Tŷ y bydd y Llywodraeth, ynghyd â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, yn diweddaru rhai mesurau rhagofalus clefyd amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob (vCJD) penodol yn Lloegr, yr Alban a Chymru.

Yn 2004, cynghorwyd y Llywodraeth i sefydlu mesurau rhagofalus i leihau’r risg o vCJD yn y DU, gan gydnabod risgiau anhysbys vCJD i’r rhai sy’n derbyn plasma a phlatennau’r DU. Cyflwynwyd nifer o fesurau, megis mynd ati i ffiltro leucosytau o holl gyfansoddion gwaed a gohirio gwaed oedd wedi’i drallwyso’n flaenorol gan roddwyr. Mae’r mesurau lleihau risg penodol hyn yn hynod o effeithiol a byddant yn parhau mewn lle er mwyn sicrhau diogelwch cyflenwad gwaed y DU.

Mesur lleihau risg ychwanegol a fabwysiadwyd oedd trin cleifion a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 1996 gyda phlasma a /neu blatennau afferesis oedd wedi’u mewnforio. Diben hyn oedd lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â chyfansoddion y credid bod ganddynt y potensial i gynyddu eu risg o ddatblygu vCJD.

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae tystiolaeth wyddonol ar ôl tystiolaeth wyddonol wedi dangos fod y risg o gael vCJD drwy drallwysiad plasma neu blatennau’r DU yn llawer is na’r hyn a dybiwyd yn wreiddiol; ni wyddir am unrhyw drallwysiad a oedd yn cynnwys vCJD o unrhyw gyfansoddion gwaed ers cyflwyno’r broses o ffiltro leucosytau. Ym Mawrth 2019, adolygodd y Pwyllgor Ymgynghorol Annibynnol ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SaBT) y dystiolaeth wyddonol ac ymarfer gweithredol, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid. Argymhellodd y pwyllgor fod rhai mesurau lleihau risg, sy’n gofyn am ddefnyddio plasma wedi’i fewnforio a phlatennau afferesis ar gyfer unigolion a aned ar neu ar ôl 1 Ionawr 1996 a/neu gyda TTP, i gael eu tynnu yn ôl.

Cyhoeddwyd cyngor terfynol SaBTO ar wefan GOV.UK, gan gynnig dadansoddiad cynhwysfawr o’r risg sy’n gysylltiedig gyda diweddaru’r mesurau hyn i leihau’r risg o vCJD. Mae’r cyngor hwn ar gael ar-lein yma: https://www.gov.uk/government/collections/sabto-reports-and-guidance-documents

Wedi derbyn y cyngor arbenigol hwn, cymeradwyodd y Gweinidog dros Ofal y defnydd o blasma domestig a phlatennau cyfun ar gyfer cleifion a anwyd ar ôl 1 Ionawr 1996 neu gyda TTP. Bydd mesurau eraill i leihau risg yn para mewn grym, gan gynnwys ffiltro leucosytau, gohirio gwaed oedd wedi’i drallwyso’n flaenorol gan roddwyr a gwahardd cynhyrchu cynnyrch meddygol sy’n deillio o blasma sy’n tarddu o’r DU.

Mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG eisoes yn cael 94% o’u plasma o roddwyr y DU a bydd cynyddu’r defnydd o blasma domestig yn cynnig manteision pellach yn ymwneud â darparu cyfansoddion gwaed yn deg, llai o gymhlethdod gweithredol ar gyfer ysbytai a gwell hygyrchedd yn y man y maent yn cael eu defnyddio. Bydd clinigwyr sydd eisiau rhagnodi a chael gafael ar gynhyrchion plasma masnachol wedi’u mewnforio ar gyfer cleifion, yn seiliedig ar anghenion y claf a dewisiadau clinigol, yn parhau i wneud hynny yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol.

Mae’r Gweinidog dros Ofal bellach wedi cyfarwyddo Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG i ddechrau cynyddu’r plasma domestig sy’n cael ei gaffael yn Lloegr drwy wneud hynny’n raddol bach mewn modd sy’n cael ei reoli. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru hefyd wedi gofyn i’w Gwasanaethau Gwaed i ddechrau rhoi argymhellion SaBTO ar waith. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd unrhyw benderfyniad ar argymhelliad SaBTO i ddiweddaru’r mesurau lleihau risg vCJD yn cael eu gohirio hyd nes y bydd yna Weinidog yn ei le.